Text Box: Leighton Andrews AC
 Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

 

22 Ionawr 2016

 

Annwyl Weinidog

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr 2016 i ateb cwestiynau am gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 o ran llywodraeth leol.

Hoffai’r Pwyllgor dynnu eich sylw at y materion a nodir isod, ac mae’n edrych ymlaen at gael eich ymateb, cyn gynted â phosibl, yn ôl y gofyn.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Nodwn mai cyfanswm y dyraniad ar gyfer y portffolio llywodraeth leol ar gyfer 2016-17 yw £3.34 biliwn, sy’n ostyngiad o £87.8 miliwn yn nhermau arian parod o’i gymharu â ffigurau llinell sylfaen 2015-16. Er na fyddai unrhyw ostyngiad yn y dyraniad yn cael ei groesawu’n gynnes, rydym yn cydnabod hynny, yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol parhaus, ac o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu gwariant mewn meysydd allweddol eraill, fel iechyd, mae’r gostyngiad hwn i’w ddisgwyl mewn gwirionedd. Bellach, rydym yn cydnabod fod y gostyngiad yn llai na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, sydd, wrth gwrs, yn newyddion da. Ar y cyfan, rydym o’r farn fod y dyraniad yn rhesymol a’i fod yn darparu setliad teg ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Nodwn, o fewn y dyraniad is ar gyfer llywodraeth leol, y bydd £21 miliwn a £34.8 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac fel arian ar gyfer ysgolion yn y drefn honno. Pan holwyd ynglŷn â’r canlyniadau y disgwyliwch i’r arian ychwanegol hwn eu cyflawni, dywedasoch wrthym mai mater i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol oedd sicrhau bod eu blaenoriaethau’n cael eu darparu gan lywodraeth leol. Er ein bod yn derbyn bod y Gweinidogion perthnasol yn atebol am ddarparu polisïau o fewn eu portffolios, disgwyliwn i chi, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am y dyraniadau hyn, fod yn gyfrifol am y penderfyniadau yr ydych wedi’u gwneud.

 

Cronfeydd wrth gefn a gaiff eu dal gan awdurdodau lleol

 

Er ein bod yn cydnabod bod penderfyniadau ynghylch cronfeydd wrth gefn yn fater i awdurdodau unigol, credwn fod gan Lywodraeth Cymru rôl i sicrhau bod awdurdodau ledled Cymru wedi gwneud trefniadau digon cadarn ar gyfer sefydlu, adolygu a rhyddhau cronfeydd wrth gefn. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu’r camau cadarnhaol yr ydych wedi’u cymryd i wella tryloywder ac atebolrwydd o ran cronfeydd wrth gefn a gaiff eu cadw gan awdurdodau lleol, yn enwedig cyhoeddi data blynyddol ar gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Er gwaethaf yr uchod, wrth drafod yr awdurdodau a’u defnydd o gronfeydd wrth gefn, dywedwyd wrthym bod rhai awdurdodau yn fwy effeithlon nag eraill o ran eu defnydd o gronfeydd wrth gefn. Mae hyn yn awgrymu bod lle i wella ac y gall fod angen camau ychwanegol yn y cyswllt hwn. O ystyried y pwysau ariannol parhaus a wyneba’r awdurdodau, mae’n ymddangos yn rhesymol bod disgwyl iddynt adolygu’n feirniadol lefel a natur eu cronfeydd wrth gefn, er bod hynny er mwyn eu bodloni eu hunain a’r etholwyr bod y cronfeydd yn cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofynnir am eglurhad pellach ynghylch a ydych yn bwriadu dilyn y mater hwn ymhellach gydag awdurdodau.


Effaith y gostyngiadau cyllido


Er gwaethaf ein sylwadau blaenorol am y setliad teg ar gyfer llywodraeth leol, rydym yn dal yn bryderus am effaith bosibl y gostyngiadau cyllido ar wasanaethau heb ddiogelwch neu wasanaethau dewisol, fel gwasanaethau hamdden. Mae’r gwasanaethau hyn, nid yn unig yn bwysig i gymunedau lleol ond maent yn cael effaith ataliol ac yn cyfrannu at yr agenda lles. Fel chwithau, rydym o’r farn y bydd penderfyniadau tymor byr i gau’r gwasanaethau hyn yn arwain at broblemau yn y dyfodol.

Rydym yn disgwyl y byddwch yn parhau i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr perthnasol yn y Cabinet i roi cymorth i awdurdodau adnabod modelau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau, a fydd gobeithio, yn helpu i ddiogelu rhag colli gwasanaethau dewisol ar draws Cymru. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu bod adroddiad wedi’i gyhoeddi ar fodelau cydweithredol a chydfuddiannol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a’r ymgynghoriad diweddar ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer modelau eraill. Hoffem pe bai modd i chi adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cyfle cyntaf sydd ar gael. 

Diwygio Llywodraeth Leol

Rydym yn croesawu’r ffaith bod Bil Llywodraeth Leol (Cymru) wedi’i gyhoeddi, a byddwn yn ei ystyried yn yr wythnosau nesaf. Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran datblygiadau’r agenda diwygio, deallwn nad yw’r uno arfaethedig i ddigwydd tan 2019, gydag unrhyw fanteision ariannol posibl yn cael eu gwireddu yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Fel y nodwyd wrthych o’r blaen, rydym yn pryderu y gall y broses ddiwygio a’r uno arfaethedig atal awdurdodau rhag cael eu hysgogi i chwilio am ffyrdd i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau cydweithredol, yn y dyfodol agos. Rydym o’r farn y dylai disgwyliad clir fod ar awdurdodau i barhau i chwilio am gyfleoedd i wella ac i gydweithio, er gwaetha’r diwygiadau. Hoffem gael sicrwydd pellach gennych fod hyn yn wir.

Cyfiawnder ieuenctid

Mae gennym rai amheuon am y gostyngiad yn y cyllid refeniw ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, o £5.2 miliwn yn 2015-16 i £4.4 miliwn yn 2016-2017. Er ein bod yn cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf wrth fynd i’r afael â throseddau ieuenctid, rydym yn pryderu ynghylch goblygiadau’r gostyngiad yn y maes gwariant ataliol pwysig hwn ar gyfraddau troseddu ieuenctid.

 

O gofio eich honiad ei bod yn "hanfodol" bod y rhai sydd mewn perygl o aildroseddu yn cael y cymorth angenrheidiol, ac yn cael y gwasanaethau priodol, a bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar bod cyfraddau aildroseddu yn parhau i fod o bryder, cawsom ein synnu gan eich penderfyniad. Er ein bod yn cydnabod bod yn rhaid i’r gostyngiad cyffredinol yn nyraniad llywodraeth leol effeithio rhywfaint ar bob maes, rydym yn cwestiynu a yw’r achos o blaid y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer cyfiawnder ieuenctid wedi’i gyflwyno. Felly,  byddem yn hoffi cael rhagor o fanylion ynghylch ar ba sail rydych wedi gwneud y penderfyniad hwn, ac ar y canlyniadau yr ydych yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni o ganlyniad i’r dyraniad cyllid.

 

Yn ogystal â’r uchod, rydych yn dweud wrthym eich bod yn credu bod modd gwneud iawn am y gostyngiad yn yr arian yn y maes gyda rhagor o gydweithio ar draws meysydd awdurdodau lleol. Rydym yn cwestiynu a fydd hyn, ynddo’i hun, yn ddigon i liniaru effaith y gostyngiad, ac yn eich cyfeirio at ein sylwadau cynharach ar gydweithredu. Byddem yn croesawu cael rhagor o fanylion gennych ar yr hyn y mae "rhagor o gydweithio" yn ei olygu yn ymarferol. Byddem hefyd yn croesawu manylion am sut yr ydych yn bwriadu monitro effaith y gostyngiad cyllid.

 

Ar bwynt ehangach, nodwn eich barn am yr angen i ystyried cyllid ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol, o gofio bod Llywodraeth y DU wedi egluro ei bwriad i beidio â datganoli cyfiawnder ieuenctid. Bydd y trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer meysydd nad ydynt wedi’u datganoli yn anochel yn fater y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn awyddus i’w hystyried. Os bydd y Llywodraeth honno’n penderfynu parhau i wario mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli, bydd yn hanfodol sefydlu fframwaith polisi clir, a chanlyniadau y cytunwyd arnynt, ar gyfer y gwariant hwnnw.

Asesu’r effaith ar gydraddoldeb

 

Nodwn y camau yr ydych wedi’u cymryd i atgoffa awdurdodau lleol o’u dyletswyddau cydraddoldeb o ran y broses o bennu’r gyllideb, ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o arferion gorau yn hyn o beth. Derbyniwn nad yw’n rhesymol nac yn ymarferol i chi ystyried pob asesiad a gynhelir gan yr awdurdodau. Fodd bynnag, credwn fod yna rôl drosolwg i Lywodraeth Cymru wrth fonitro pa mor gadarn yw’r asesiadau hyn, yn ogystal â’u heffaith gronnol. Hoffem gael eich barn ar hyn. Rydym wedi ysgrifennu i’r perwyl hwn at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth hefyd.



 

Y Gymraeg

 

Hoffem wneud yr un pwyntiau ag y nodwyd uchod o ran asesiadau effaith gan awdurdodau lleol ar benderfyniadau gwariant ar yr iaith Gymraeg. Ar ben hynny, mae gennym rai pryderon am yr amrywiad drwy’r gwahanol awdurdodau yn eu dull gweithredu o ran yr asesiadau hyn. Mae’n amlwg yn ôl eich tystiolaeth, bod gennych rai amheuon ynghylch a fydd cyflwyno safonau iaith Gymraeg ar gyfer awdurdodau, sydd ar fin digwydd, yn gwella’r sefyllfa hon. Byddem yn hoffi pe bai modd i chi roi rhagor o fanylion am sut yr ydych yn credu y gellir mynd i’r afael â’r amrywiad hwn, a beth yw eich bwriadau yn hyn o beth.

 

Ar bwynt ehangach, hoffem ailadrodd fod angen parhau i hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg drwy’r holl awdurdodau. Rydym yn croesawu’r cam i sefydlu Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol ac edrychwn ymlaen at weld canlyniad ei waith.

 

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

Yn gywir

Christine Chapman AC

Cadeirydd